Tsieina

Mi es i Tsieina yn y Gwanwyn 1977. Roedd Mao Zedong newydd farw, a brwydr am bŵer yn y wlad ar ei hanterth. Roedd y "Gang o Bedwar" o dan glo, ond nid oedd yn glir eto pwy oedd i arwain y wlad hyd nes i Deng Xiaoping ddringo i'r brig yn hwyrach yn y flwyddyn.

Roedd y chwildro diwylliannol wedi dod i ben, ac roedd optimistiaeth fawr ymhlith pobl ym mhob man bod Tsieina ar y ffordd i greu cyfundrefn oedd yn wir yn nwylo'r cymunedau.

Prin roedd golwg o bobl o'r gorllewin, yn arbennig y tu allan i'r ardal yn Beijing lle'r oedd y diplomyddion a newyddiadurwyr estron yn byw. Felly wrth i'n grŵp bach ni o Gymry deithio miloedd o filltiroedd trwy'r wlad roedden ni'n denu llawer o sylw. Roedd yn ymddangos fel bod pawb eisiau siarad â ni, a rhwng Saesneg a Ffrangeg, tipyn o Tsieinëeg, a chryn dipyn o wenu nid oedd iaith yn ormod o anhawster.

Parc Cyhoeddus Pobl yn mwynhau diwrnod yn y parc, ond pob pen yn troi i edrych ar y bobl o wlad orllewinol. Ar y pryd, roedd yr opera boblogaidd Bái Máo Nü (Y Wraig gyda Gwallt Gwyn) yn chwarae yn Beijing. Ymhlith ein grŵp oedd gwraig gwallt golau; lliw oedd yn anghyffredin iawn yn Tsieina. Mae hi yn y siaced felyn yn y llun. Cafodd hi ddwywaith sylw'r gweddill ohonom!
Y tirwedd ddinesig Ar y pryd roedd llawer o Beijing yn edrych yn debyg i'r llun yma, gyda difrod i adeiladau ac ysbwriel yn y strydoedd. Dyma oedd cyfnod nifer o ddaeargrynfeydd grymus yn yr ardal, yn cynnwys daeargryn Tangshan, a laddodd dros 250,000 o bobl. Sylwer ar y wraig yn gwisgo mwgwd. Roedd hyn yn olygfa gyffredin, oherwydd y llwch oedd yn yr atmosffer.
Y tirwedd ddinesig Ychydig o adeiladau uchel oedd yn Beijing yn 1977, er roedd ambell arwydd bod y hen batrwm traddodiadol o dai dinesig ar fin diflannu, i'w disodli gan flociau o fflatiau a swyddfeydd. Gyda phedwar uned isel o gwmpas buarth canolog, yn aml iawn y byddai'r grŵp o dai yn gartref i deulu estynedig. Y buarth oedd y man cymunedol, lle byddai'r plant yn chwarae, bwyd yn cael ei baratoi, golch yn hongian i sychu, a chlonc yn mynd o glust i glust.

Mewn daeargrynfeydd daeth perygl mawr oddi wrth y teils trymion ar y toeau. Dyma pam gwelir llawer o gysgodfeydd cyntefig gyda thoeau o gynfas neu bren haenog yn y buarthau. Pob tro y byddai cryndod - ac roedd dau tra roedden ni yn Beijing - byddai'r teulu yn symud i fyw yn y gysgodfa.

Ychydig iawn o ffenestri oedd yn y waliau wrth ochr y stryd gyhoeddus. Gyda hanes cythryblus y ddinas yn ymestyn i gyfnod cymharol ddiweddar roedd yn bwysig adeiladu nodweddion amddiffynol yn y cynlluniau adeiladu.

Gwelir hen eglwys Gristnogol yn nhop y llun, ar y dde. Roedd yn cael i ddefnyddio i gadw offer adeiladu ar y pryd.

Poster Mae mwyafrif mawr poblogaeth Tsieina yn perthyn i'r hil Han. Ond o gwmpas ffiniau'r wlad mae nifer o hiliau eraill yn byw, yn cynnwys pobl Zhuang, Manchu, Hui, Miao, Uyghur, Tujia, Yi, Mongol a Tibetaidd.

Yn eu hardaloedd roedd elfen o hunan-lywodraeth - mwy o dipyn nag sydd gennym yng Nghymru - a rhoddwyd cryn le i'w hieithoedd a diwylliannau yn y systemau addysg a gweinyddiaeth. Ond rhyfedd i'n llygaid ni oedd gweld y sylw a dangoswyd i'r lleiafrifoedd cenedlaethol yn yr ardaloedd Han, a gwelwyd y poster hwn yn Beijing. Cymhariaeth byddai posteri mawr yn Llundain yn annog parch tuag at y Cymry, Albanwyr a Gwyddelod, gyda gwersi yn ysgolion Lloegr lle byddai pob plentyn yn dysgu am fodolaeth, ieithoedd, hanes a thraddodiadau eu trigolion Celtaidd.

Trwsio hen Adeiladau Roedd cryn dipyn o waith trwsio yn digwydd ar y pryd ar hen adeiladau, fel yma ym Mharc Xiangshan ar gyrion Beijing. Fel yn yr ardaloedd preswyl a diwydiannol, roedd llawer o'r hen adeiladau wedi dioddef yn y daeargrynfeydd i ryw raddau.

Mae rhannau o Tsieina wedi byw gyda'r perygl o ddaeargrynfeydd ers erioed, ac adlewyrchir hyn yn hen bensaerniaeth y rheolwyr a phobl gyfoethog. Felly er roedd daeargrynfeydd weithiau yn dinistrio cartrefi'r tlawd yn llwyr, yn aml ni fyddai'r adeiladau sydd wedi dod yn drysorau cenedlaethol yn dioddef cymaint.

Dosbarth Ysgol Dosbarth Ysgol Roedd 2,200 o fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Rhif 150, yn ardal Teml y Lleuad yn Beijing. Derbyniwyd disgyblion rhwng 13 a 18 oed, a byddai eu cyfnod yn yr ysgol yn parhau am 5 mlynedd. Pob blwyddyn byddai disgyblion yn treulio 8 mis yn yr ysgol, 1 mis yn gweithio - fel arfer mewn ffactri - a 3 mis ar eu gwyliau.

Rhedwyd yr ysgol gan Bwyllgor Chwyldroadol, gydag aelodau yn dod o athrawon, disgyblion a gweithwyr mewn busnesau lleol. Byddai gan gangen leol y Blaid Gomiwnyddol yr awdurdod eithaf dros y Pwyllgor Chwyldroadol, a'r ysgol.

Ni chaniatawyd i ddisgyblion adael yr ysgol a mynd yn syth i'r brifysgol. Byddai rhaid iddynt dreulio amser yn gweithio mewn ffactri neu ar y tir yn gyntaf. Wedyn, wrth ystyried eu ceisiadau i fynd i brifysgol, byddai barn y bobl yr oeddent yn gweithio gyda nhw, yn ogystal â chanlyniadau eu gwaith yn yr ysgol, yn cyfrif.

Gweithdy Mewn ystâd o fflatiau yn ardal Teml y Lleuad neilltuwyd un o'r fflatiau fel gweithdy. Yma byddai gwragedd gyda chyfrifoldebau a'u cadwyd yn eu fflatiau rhan fwyaf y dydd - megis gofalu am hen bobl a phobl ac anableddau - yn dod am ychydig o oriau i weithio ar gydosod blodau gwydr, ac i gymdeithasu. Gwerthwyd cynnyrch y gweithdy, a defnyddwyd yr elw at fudd yr ystad i gyd.
Beijing Beijing Dyma oedd cyfnod o newid gwleidyddol sylweddol yn Tsieina. Roedd Mao Zedong, arweinydd ysbrydol y genedl ers y 'Gorymdaith Hir' yn 1934, newydd farw. Roedd teimlad cryf ymhlith llawer o bobl gyffredin yr oedd yn bosibl i Tsieina ddatblygu mewn gwlad oedd yn agos at fod yn nef i werin bobl, oni iddynt guro 'gelynion y chwyldro'.

Yn aml iawn ac ym mhob man gwelwyd gorymdeithiau yn cefnogi'r chwyldro megis y rhai yma gan aelodau'r Cynghrair Ieuenctid a'r Arloeswyr Ifanc, neu gan bobl hŷn.

Moch Bridiwyd llawer o foch. Defnyddiwyd y cig, ond yn aml prif bwrpas y bridio oedd cynhyrchu gwrtaith. Roedd y cytiau moch yma ar gomiwn ger Beijing, lle godwyd 45,000 o foch yn 1976.

Yn y comiwn roedd 31,000 mu (1 erw = tua 6 mu) yn cael eu ffermio, ac yn cynnal poblogaeth o 41,000 o bobl mewn tua 10,000 o gartrefi. Yn bennaf roeddent yn tyfu llysiau, gwenith a reis. Yn ogystal â ffermio roedd y comiwn yn rhedeg nifer o weithdai yn gwneud darnau sbâr ar gyfer tractorau ac yn adnewyddu eu teiars; yn cynhyrchu dillad; ac yn cynhyrchu gwaith coed.

Ffactri Jêd Dyma weithiwr mewn ffactri yn Shanghai yn cerfio addurn mewn jêd, crefft sydd yn hen iawn yn yr ardal yma. Mae'r crefftwyr yn gweithio 8 awr y dydd, yn cynnwys 1 awr egwyl dros ginio a 2 egwyl o hanner awr yr un yn y bore a phrynhawn. Yn ogystal rhoddir amser bob bore a phob prynhawn am ymarferion i'r llygaid ac i'r corff.

Ar gyfartaledd roedd y cyflog i weithiwr profiadol tua 60 yuan y mis (tua 10 yuan i'r bunt Brydeinig) a byddai neb yn ennill mwy na dwbl neu lai na hanner y raddfa yma. Ar ôl ymddeol (oedran 50 i wragedd, 60 i ddynion) talwyd pensiwn o 70% o'r cyflog, a rhoddwyd gofal meddygol yn rhad ac am ddim. Disgwyliwyd i grefftwyr oedd wedi ymddeol rhoi tipyn o'u hamser i hyfforddi pobl ifanc yn y sgiliau.

Yn ogystal â jêd byddai'r gweithwyr yn cerfio ifori a ddaeth o Tansania. Yn y broses cynhyrchwyd cryn dipyn o lwch ifori, a werthwyd fel meddyginiaethau i geulo gwaed ac i wrthsefyll enynfa.

Ffos Ddyfrhau Yn 1958 dechreuwyd ar brosiect i ddyfrhau dros filiwn mu (tua 167,000 erw) o dir sych yn ardal Xiangtan, o dan enw Prosiect Dyfrhau Shaoshan. Gweithiodd tua 100,000 o bobl ar y prosiect yn y 15 mlynedd ganlynol, ond erbyn ein hymweliad cydnabyddir yr ardal fel un o'r ardaloedd ffermio gorau yn Nhalaith Hunan.
Man geni Mao Zedong Cafodd Mao Zedong ei eni yn y tŷ yma yn 1893. Adeiladwyd y tŷ, sydd yng nghymharol foethus mewn ardal oedd wedi bod yn dlawd iawn, gan ei dad oedd yn werinwr cyffredin cyn troi'n ffermwr ac asiant grawn o statws yn yr ardal. Treuliodd Mao dim ond 5 mlynedd yn ysgol y pentref cyn gadael i weithio ar fferm y teulu, ond yn hwyrach aeth yn ôl i'w addysg mewn ysgol uwchradd yn Changsha, prif ddinas talaith Hunan.

Mae'r tŷ yn fan pererindod i lawer o bobl Tsieina. Yn dilyn marwolaeth Mao daeth wleidyddwyr i'r brig oedd am lywio Tsieina mewn cyfeiriad gwahanol iawn i'r un a ddilynwyd gan Mao. Dechreuon nhw ymdrech gref i dynnu sylw at gamgymeriadau Mao, ac mae'r ymdrech yma yn parhau hyd heddiw, gyda chymorth brwdfrydig llawer o bobl asgell dde yn yr Unol Daleithiau a gweddill y gorllewin. Ond roedd rhaid i lywodraeth newydd Tsieina fod yn ofalus. I bobl gyffredin Tsieina roedd Mao yn arwr. Dyma'r dyn oedd wedi'u codi o gaethiwed. Yn Hù (Shanghai) gwelsom giw o tua hanner filltir y tu allan i siop llyfrau ar ddiwrnod cyhoeddi llyfr newydd o ddyfyniadau Mao.

Er mwyn osgoi codi gwrychyn y bobl gyffredin trwy feirniadu Mao yn uniongyrchol roedd y Llywodraeth yn tueddu canolbwyntio ar honiadau o ffaeleddau a chamgymeriadau gan y bobl oedd yn ei gynghori.

Roedden ni yn Shaoshan ar yr un pryd a sawl grŵp o blant ysgol a myfyrwyr. Roedd yn ymddangos ein bod ni - y bobl wynion gyda'n gwallt lliw golau a'n dillad rhyfedd - yn gymaint o atyniad i rai o'r plant a man geni eu harwr.
Y Gang o Bedwar Gwelwyd llawer o dystiolaeth o'r ymgyrch i ddifrïo'r "Gang o Bedwar", sef grŵp o wleidyddwyr o dan arweinyddiaeth Jiang Quing, gwraig Mao Zedong. Roedd y sefyllfa yn gymhleth, ond tua diwedd bywyd Mao Zedong roedd brwydr am bŵer rhwng y chwith a'r dde. Y chwith - a'r Gang o Bedwar - a gollodd.

Yn y Gorllewin prin byddwch yn gweld hyd heddiw air da am y Gang o Bedwar a'u syniadau. Debyg mae'r un peth yn wir yn Tsieina. Mae'n siwtio cyfeiriad newydd Tsieina, sef i amsugno cyfalafiaeth y tu mewn i gyfundrefn wleidyddol un blaid, a'r sefydliadau gwleidyddol a chyfryngau torfol yn y Gorllewin sydd yn pardduo unrhywun sy'n ceisio lledaenu sosialaeth.
Ffactri prosesi te Dechreuwyd ar y gwaith o ffurfio Comiwn y Bobl Chouchan, y tu allan i dref Shangsha, yn 1963. Elfen bwysig o economi'r comiwn oedd tyfu a phrosesu te, ac ar ôl plannu'r llwyni te cyntaf yn 1963 casglwyd y cnwd cyntaf yn 1968. Agorwyd y ffactri yma, a adeiladwyd gan aelodau'r comiwn, yn yr un flwyddyn.

Ym mlwyddyn gyntaf y ffactri cynhyrchwyd 2,000 cilo o de sych, ond yn y flwyddyn cyn ein hymweliad roedd y ffigur wedi cynyddu i 28,000 cilo, gyda disgwyliad o gynnydd o 16% yn ystod y flwyddyn bresennol. Er codwyd yr adeilad a gwnaethpwyd y stofiau a rhai o'r peiriannau gan y gweithwyr, roedd rhaid benthyg arian o'r llywodraeth daleithiol i brynu'r peiriannau mwy soffistigedig. Gobaith y comiwn oedd ad-dalu'r dyledion hyn ymhen tair blynedd, gan adael digon yn y coffrau i ail-gyfarparu'r ffactri'n llwyr cyn pen pum mlynedd.
Kweilin Yn 1977 roedd 210,000 o bobl yn byw yn Kweilin (neu Guilin) yn Ardal Ymreolaethol Guangxi Zhuang. Erbyn hyn mae'r boblogaeth wedi tyfu i 1,340,000 ac mae'n ganolfan gynhyrchu o bwys.

Roedd llawer o bobl Han yn byw yn Kweilin, ond mwyafrif mawr trigolion y cefn gwlad o gwmpas oedd pobl Zhuang. Rhoddwyd cryn gefnogaeth ac elfen sylweddol o hunan-lywodraeth i'r bobl Zhuang, gyda nifer o ysgolion lle defnyddwyd yr iaith Zhuang fel cyfrwng dysgu. Hyd yn oed yng ngweddill yr ysgolion disgwylwyd i bob disgybl - boed o gefndir Han neu Zhuang - ddod yn ddwyieithog i ryw raddau yn y ddwy iaith.

Efallai'r broblem fwyaf oedd yn wynebu dyfodol y diwylliant Zhuang oedd agwedd rhai o'r bobl yn eu cymuned eu hunain. Roedd nifer sydd wedi cyrraedd safle o bŵer a dylanwad yn wleidyddol a chymdeithasol wedi troi yn erbyn eu hiaith, gan feddwl bod rhaid mabwysiadu iaith a ffyrdd y Han i lwyddo. Gyda'r agwedd yma yn bodoli ymhlith y pwerus roedd sawl ymdrech gan y Zhuang cyffredin i sicrhau statws gwell yn wynebu anhawsterau mawr.

Ardal Kweilin Mae'r ardal o gwmpas Afon Li wrth iddi lifo trwy Guangxi yn agos i Kweilin yn eithriadol o hardd, ac erbyn hyn yn fagnet i dwristiaid - ill dau pobl o ardaloedd eraill yn Tsieina ac o dramor - sy'n dod i edmygu'r mynyddoedd rhyfedd yn yr ardal sydd fel petaent yn codi'n syth o'r caeau. Erbyn hyn deallir mai twristiaeth yw un o'r conglfeini'r economi.....
Adeiladu Cychod .... Ond yn 1977 nid oedd diwydiant twristiaeth yn Tsieina, gan bobl leol neu gan laowai (tramorwyr, yn arbennig o'r gorllewin). Cynigwyd cyflogaeth i bobl trwy fentrau megis yr iard adeiladu a thrwsio cychod yma. Ym mhob pentref ar lan yr afon roedd ffactrioedd bach i lifo coed, prosesu bwyd, ac i gynhyrchu darnau i beiriannau amaethyddol, nwyddau rwber, a thecstilau.

Mae'r afon ei hun yn enwog am y dull o bysgota gyda bilidowcarau, a'r cysylltiad i gamlas Lingqu, y gamlas hynaf yn y byd, a adeiladwyd yn 214 CC.

Cyn mynd i Tsieina dysgasom dipyn am ddiwylliant, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth ac economi'r wlad. Hefyd, wrth gwrs, roeddem wedi bod yn dilyn beth oedd yn y papurau newyddion Prydeinig am y wlad. Cawsom ddeall oddi wrth y papurau hyn bod y gyfundrefn Tsieineaidd ar fin chwalu. Newyn ymhobman. Pobl yn ysu am rywbeth o enw "rhyddid". Pawb yn ofnus o'r wladwriaeth a'i hasiantaethau cudd.

Ond cawsom ein siomi ar yr ochr orau. Os unrhywbeth roedd gormod o gysylltiad gyda phobl leol. Roedd pawb eisiau siarad, ac ar ddiwedd bob dydd roeddwn wedi blino'n lan. Nid oedd unrhyw rwystredigaeth ar le y gallem fynd. Yn wir, yr unig dro pan gawsom gyfarwyddyd i beidio gwneud rhywbeth oedd wrth hedfan i faes awyr milwrol ger Shangsha yn Guangdong, oherwydd nid oedd maes awyr sifil yn agos. Gofynnwyd yn gwrtais i ni gadw ein camerau yn ein bagiau.

Tynnwyd pob un o'r lluniau uchod gennyf fi. Mae croeso i chi eu defnyddio ar yr amodau canlynol:
Yn ôl i'r dudalen gartref